Episode details

Radio Cymru,1 min
Series 2014
CRANNOG: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cychwyn ac yn gorffen gydag enw lle (naill ai yr un lle neu ddau le gwahanol)
Y TalwrnAvailable for over a year
‘Ac ef a gychwynnwys y nos honno o Arberth, ac a doeth hyt ym Penn Llwyn Diarwya, ac yn y bu y nos honno.’ Penllwyn Du yw’r llety llawn Lle gwariai Pwyll ac Arawn Yr amseroedd pan oeddynt Ar herw rhyw garw gynt. A ddoe o hyd sy’n rhyddhau Dyfedeg hen dafodau Mewn un gyfeddach lachar O rithio byd wrth y bar. Yno fyth yr hen helfâu Â’n un â’n heddiw ninnau. A’r Wes Wes yn cynhesu Lle nid oes fel Penllwyn Du. Idris Reynolds 10
Programme Website