Episode details

Available for over a year
‘Canys beth ydyw eich einioes chwi?’ Y bore wedyn, roedd swrealaeth o gymylau wedi’u parcio ar hyd y dolydd a’u peiriannau’n dal i droi, yn fud ac yn wyn... Y noson gynt, ar ôl y gorffen, beiciais o’na, yn lle beichio crio, a’m dyrnau ar y cyrn yn rhubanu mynd drwy grai nodwydd y nos. Roedd erwain yn bochio allan i’r llwybr a’r coed yn cwblhau’r claustrophobia; a’m lamp yn gwandrywanu’r düwch a lithrai heibio, cyn cael ei oleuo... A thrannoeth, daeth lleithder i’r llygaid eto wrth straenio gweld mewn gwyn yn lle du, a’r coed fel ysbrydion, yn nofio’n ddi-angor. Ond roedd y byd gwyn yn gwahodd, â’i addewid, o leia, o haul ar y ddol, wrth agor o’m blaen a chau ar fy ôl... Ifor ap Glyn 9.5
Programme Website