Episode details

Available for over a year
Deg yw Bob Delyn a’i hen benillion, Gall godi yn uwch o finiogi’r ebillion. Rhif naw yw ail-lansiad I’r ffans sydd dros drigen O ‘Bore’r Briodas’ gan Ifor Owen. Aneirin y rapiwr, Llydaw-wr y llwyth, Sy’n rat-a-tat-tatio trwy’r iet i rif wyth. Yn seithfed daw Triawd y Buarth i’r Sioe, Sef Tegwyn ac Oernant ac Arwyn Groe. Ail-weithio’u ffordd lan mae Rhys ac Aaron Yn canu’r blŵs yn eu crysau cochion. Un safle yn uwch gyda’u lleisiau soniarus Mae Robat Powell a Chôr Treforys, Yn bedwerydd mae’r Meuryn ac Ar ôl Tri, Mae’n nhw’n gwybod eu lle, fel y sylwch chi. Rhif tri I’n hudo, fel lliwiau’r enfys Yw Lleucu Llwyd gan Dewi Grey Morris. Band Myrddin y tro yma sydd ddim ond yn ail, Fe saethwyd eu llwynog, diffoddwyd yr haul. A chaiff Lovegreen gytuno, wrth dderbyn y clod, Mai yma, yn gynta, ma’ fynta i fod. Dai Jones 9.5  
Programme Website