ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,5 mins

Myrddin ap Dafydd - Diod Orau Cegin Gwenno

Geraint Lloyd

Available for over a year

Wedi eitem gyda Tony Hatcher ar raglen Geraint Lloyd nos Fawrth yn Sioe Llanelwedd. Diod Orau Cegin Gwenno Beth eleni oedd yn gwerthu Yn y bar yn Sioe Fawr Cymru? Ar y Maes, a’r haul yn danbaid, Rhaid bod pawb yn mynd am lymaid. Gwin y gwan yng Nghegin Gwenno – Gwan oedd llif y gasgen honno; Seidar fferm o’r fala gora’ – Pasio’r pwmp yr oedd y dyrfa. Peint go-iawn o gwrw chwerw – Surodd sels y cwrw hwnnw; Cwrw coch a chwrw melyn – Prin y gwagiwyd un diferyn. Sangria, Pimms a gwinoedd tramor – Nid oedd diben bron eu hagor; Lager bybliog; cwrw ceglyd – Pasiwyd heibio’n ddigon sychlyd. Beth eleni oedd yn gwerthu Yn y bar yn Sioe Fawr Cymru? Dwr – yn oer a chlir a hyfryd; Dwr yn bur o ffynnon bywyd. Gawn ni gân yng Nghegin Gwenno? Dwr Huw Jones oedd amla yno; Synnu mawr oedd ym mar Stocmans Fod pawb leni’n cadw’i falans!

Programme Website
More episodes