Episode details

Radio Cymru,2 mins
Available for over a year
Wedi’i daro yn fud ar ôl Cwpan y Byd, a llanastr ymgyrch Brasil, Heb gysur i’w gael ’rôl perfformiad mor wael, ymddiswyddo fu raid i Big Phil. Penderfynodd mai gwell fyddai mynd i wlad bell, gwlad lle na fyddai’n cael ei ddifrïo, Ac felly Phil Fawr a ymlwybrodd i lawr at y cei er mwyn hwylio o Rio. ’Rôl dweud ei ffarwél, a hwylio am sbel, daeth i dref fach o’r enw Caer Saint, lle chwiliodd Scolari am dîm i’w reoli, a’r Caneris a gafodd y fraint. A buan y canfu fod hen dref y Cofi yn lot gwell na’r Copacabana, (Ocê, does dim delw o Grist ar ben Twtil, ond ’sna’m cerflun Lloyd Jorj draw yn fan’na). Ond er bod y dre yn dipyn o le, doedd tîm y crys melyn ddim cystal, Felly galwodd Phil griw o Frasiliaid di-gliw i ymuno â fo ar yr Oval. A dyma nhw’n dod – y cyntaf oedd Jô; cyn pen dim fe deimlai’n gartrefol, “Dyffar Jo” oedd efe i gefnogwyr y dre, am ei ddiffyg medrusrwydd sylfaenol. Daeth Fred ar ei ôl, ond methodd y gôl, a glanio ’Nghaerdydd yn y Bae, Ond dim ots am hynny, daeth Alun Ffred fyny i gymryd ei le ar y cae. Cyn hir fe ddaeth Maicon i’r Cofis yn eicon, fe’u clywn yn ei gyfarch yn llon ar y Maes a Stryd Llyn, yn hwyliog fel hyn: fe waeddent yn ddyddiol “Ma’i con’!” Fedrai David Luiz ddim mynd llawer is ar y cae, ond mi fedrai o ganu Ac yn salon Caprice gwelodd Sera Louise, a bellach ’sdim modd eu gwahanu. Ond methiant oedd Phil, doedd ei dîm ddim yn bril, a phan gollwyd i dîm Clwt y Bont, Heb droffis i’w sgleinio, bu raid eto riseinio. Wel, ’tydi pêl-droed yn gêm front. Geraint Lovgreen 9.5
Programme Website