ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Syniad pwy?

Bore Cothi

Available for over a year

Syniad pwy? Un bore'n mis Rhagfyr mi gyrhaeddodd y cynta' yn becyn bach twt gan wraig o Ddolgella', ac yna daeth sleisan gan ŵr o Lanelli, dau ddarn o Biwaris, un o'r Ffôr, tri o'r Fenni. Daeth bocsiad o Ferthyr, darn bach o Landudno, rhyw friwsion o Arberth, cacan gyfa o'r Bermo. Bob bore roedd postmyn Caerdydd yn stryffaglu, tair fan ambell ddiwrnod a'r creaduriaid yn chwysu. Mae 'na rwbath yn drefnus am bobl Tregaron - mi logo nhw lori a'i llenwi i'r ymylon â darnau o gacan mewn bocsus bach destlus a nodyn 'fo pob un yn nodi y cynnwys. A dal i ymddangos oedd y darnau o gacan, gan gwcs lawr y lôn a Chymru alltud yr Alban. Roedd rhai efo eisin a rhai efo rhuban a rhai efo celyn a pheli bach arian. Fe wagiwyd dwy stiwdio i gadw'r cacenna, er annog cyflwynwyr i fyta eu gora, a dechrau eu rhannu - bois sain a glanhawyr, yr ysgrifennyddion, a sgriptwyr, cynhyrchwyr. Wnaeth Dai na Dei Tomos ddim byta'm byd arall am fisoedd a'r fisoedd ac anodd yw deall ymroddiad y ddau i glirio y mynydd a'u dawn i gnoi cyrins tra'n cyflwyno yn ddedwydd. Mi ddaliodd pawb ati yn ddi-drefn ond reit cîn ac er y diflastod doedd neb wir yn flin nes tagodd Sian Gwynedd ar bedair sultana a holi yn biwis "Syniad pwy oedd peth fel'ma? Mae'n well i'r un gafodd y fath syniad dwl ffindio rhyw ffordd o gael gwared o'r cwbwl!" Fe dreiliodd Sian Cothi dri mis yn creu rota efo cyfrifiaduron wedi'u benthyg gan NASA, Pwy oedd i fyta pa ddarn a pha bryd, ymgyrch filwrol i'w byta nhw'i gyd. Ac yna datganiad i'r holl staff ÃÛÑ¿´«Ã½ "Mae llwyddiant yn bosib, mi orchfygwn ni y cacennau Nadolig! Gorffenir y gwaith gan Tommo am dri, yn nwy fil dau ddeg saith."

Programme Website
More episodes