Episode details

Available for over a year
Ifan Evans ar C2. Ifan Evans a pham lai. Ifan Evans, un o’r sêr, Ifan Evans, tedi bêr. Ifan Evans YFC, Ifan Evans ‘ti’ nid ‘chi’. Ifan, bachan cader yw, Ifan Evans, wit-a-whiw. Ifan Evans, boi Man Iw, Ifan Evans, dim un cliw. Ifan Evans mewn pick-up. Ifan Evans. Oh, shut up. Ifan Evans, ffarm Tynrhos, Ifan, crwt Pontrhydygrôs. Ifan, Suarez tîm y Bont (dannedd mowr a thacl front). Ifan Evans ar gefn tractor, Ifan Evans ar Fferm Ffactor. Ifan Evans, Cardi solet (weiren bigog rownd ei wallet). Ifan Evans, un o’r Sipsiwn, Ifan Evans ar bresgripsiwn; Ifan Evans ar yr awyr, Ifan Evans heb wrandawyr. Ifan Evans, troellwr disgie, Ifan Evans, heb ei wisg-e. Ifan, y cyflwynydd gore (heblaw rhai’r prynhawn a’r bore). Ifan Evans, boi jocôs, Ifan sydd yn mynd drwy’r nos. Ifan Evans yn mwynhau Ifan Evans ar C2! cwj (7.10.14)
Programme Website