ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,3 mins

Angyles - Carol newydd gan Twm Morys, bardd mis Rhagfyr ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru

Bwrw Golwg

Available for over a year

Angyles – Twm Morys Ofer Gŵyl sy’n firi i gyd heb ennyd o dawelwch, Anodd gen i lawenhau a’r Gwyliau heb ddirgelwch. A dyna’i gweld hi yn y gwyll, yn ôl yr hen ddull chwedlonol, Yn dod dan hebrwng ar ei hôl y lliaws o lu nefol. Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi, Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi, Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi’n dod! Mi safodd pawb yn nrysau’r tai, roedd yno rai yn crïo, Rhai’n arswydo rhag y sêr, a llawer yn gweddïo. A llefarais innau wrthyn nhw drwy dwrw yr adenydd: Nac ofnwch, bobol, mae gan hon newyddion o lawenydd! Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi, Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi, Mi rown i’r byd am gael eu gweld hi’n dod! Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi, Yr holl deganau bach drud am gael ei gweld hi, Dw i wedi disgwyl c’yd am gael ei gweld hi’n dod!

Programme Website
More episodes