Episode details

Available for over a year
I ddathlu dechrau’r gwaith adeiladu ar safle newydd Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd, 19 Ionawr 2015 Ti yw coed deunydd tŷ cerdd. Trawst ein iaith trosti a’i nen ‘Moliant Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd’ (Guto’r Glyn) Os bach i ni bellach y bryncyn lle safai tŷ dy gân, cartref bychan seiri crefft ger grym llifeiriant Hafren, ac os llyncwyd tomen gŵr y llinell union gan goed a llwyni’n bwrw rhwydi cysgod estron dros y tir, does angen inni chwilio’n hir trwy’r drysi, na chloddio’n ddwfn i’r pridd ar lannau Hafren, cyn canfod eto dderwen sy’n canghennu’n llys o gân: o’i bonyn brigodd mangoed a’u llond o egin ir sy’n mynnu adfeddiannu tir rhag grym llifeiriant Hafren. Christine James Ionawr 2015 Lluniwyd fel rhan o weithgarwch ‘Bardd y Mis’ Radio Cymru, a’i darlledu ar raglen Dylan Jones, 23 Ionawr 2015
Programme Website