Episode details

Available for over a year
Ynys lanw yw Ynys Llanddwyn, a sarn yn ei chysylltu â thir mawr Ynys Môn Gariadon hen ac ifanc, dewch, gwrandwch ar fy nghân am hanes Santes Dwynwen a garai hogyn glân: yn wir, yr hogyn gorau a welodd neb erioed, ac aeth efe a Dwynwen un dydd am dro i’r coed. Fe roes ei fraich o’i chwmpas a’i thynnu hi i’w gôl, a cheisiodd ef ei chymryd – ond hithau’n tynnu nôl. Fe alwodd hi am gymorth: daeth angel lawr o’r nef â diod rew i Maelon, i oeri ei chwantau ef. Ond rhy oer oedd y ddiod – trodd ef yn golofn iâ, ‘O diar,’ meddai Dwynwen, ‘Dyw hynny ddim yn dda!’ Gweddïodd yn ei gwewyr am dri dymuniad gwiw: yn gyntaf am i Maelon gael toddi ’nôl yn fyw; yn ail, i Dduw fendithio cariadon ym mhob man; yn olaf y câi hithau fyw’n dawel, yn y llan, yn bell o bawb a phopeth ond sŵn y môr am byth. Fe gadd ei thri dymuniad eu gwireddu iddi’n syth: daeth Maelon ’nôl yn heini yn ôl y stori hon, a Dwynwen? aeth yn lleian i Landdwyn dros y don. Ond beth, dywedwch chithau, am ail gais Dwynwen bur am ateb dymuniadau rhai â chariad fel y dur? Gwrandawyr annwyl, cofiwch: nad stori wir yw hon; yn hanes pob cariadon daw’r lleddf ynghyd â’r llon. Er cilio draw i Landdwyn a wnaeth nawddsantes serch, mae’n cynnig darlun hefyd am gymod mab a merch. Os bydd i ofid bywyd eich gyrru ar wahân; stormydd mawr, treialon, neu bethau dibwys, mân, cofiwch – yn eich cyflwr ynysig, grac a chaeth, daw i chi gyfle i groesi’r sarn, bob trai, yn ôl i’r traeth. Christine James Ionawr 2015 Lluniwyd fel rhan o weithgarwch ‘Bardd y Mis’ Radio Cymru, a’i darlledu ar raglen Hywel Gwynfryn, 25 Ionawr 2015
Programme Website