ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,5 mins

Mererid Hopwood - Hebog Gobaith

Dewi Llwyd ar Fore Sul

Available for over a year

Hebog Gobaith er cof am Osi Rhys Osmond Mae’r hebog uwch môr yr aber? Mae’r llan? Mae’r lliw? Ac mae’r dyfnder? Mae tân yn y cwm tyner? Mae Sirhywi’n si? Mae’r sêr? Daeth mellt i beintio’r pellter a llenwi’r holl lun, galw gwacter i’n rhwydo yn ein pryder, heb ffram, heb ffin, yn flin-flêr. Daeth taran i rwygo baner ein hedd a’i hel hi i’r gwter yn amdo ar ddiddymder ein gwaedd bell. Mae gweddi bêr? Ust, ar ysbaid ddistaw’r osber, fe glywn gof y gloch gyn-amser yn galw’i wlad at bader, galw’i blant at siant y sêr. Yn ei alaw clywn ‘gwneler d’ewyllys’, a deallwn gryfder trai uwch llanw, a phwer taith y mynd maith yn ein mêr. A gŵyr ein hen gof mai ofer tristwch y trwste, daw adfer y lliwiau fesul llawer, lliwiau aur dy gannwyll wêr. Wyt y fflam sy’n gloywi’n hamser, – hebog ein gobaith a’n menter, wyt wên y darlun tyner yn lloches wych llwch y sêr. mh

Programme Website
More episodes