Episode details

Available for over a year
Rhyw sôn ar gyrion geiriau ydoedd hi a’i dweud i ddau, camgymeriad cariadon, ’na’i gyd, dim byd yn y bôn, un cwr o sgwrs mewn croes gudd - llinell rhwng dau ddarllenydd. Ond heddiw daeth ei lliw llwm yn ofalus o’r felwm, ac araith fud y graith fach a fynnodd gael clust feinach; gwelwn ei hôl o’i glanhau, cri o’r ochor mewn crychau. A’i gwers bert? O groesi bant y gwallau, er dod gwelliant, mae’r gân nad yw mwy ar goedd yn arhosol drwy’r oesoedd, a chilfachau’r bylchau bach yn fawr iawn eu cyfrinach.
Programme Website