Episode details

Available for over a year
Yr un môr yw hwn a’r môr a gariodd y Gymraeg ond sylwai neb arno dim ond ei ddefnyddio. A daw’r môr hwn heddiw nôl a mlaen a’i ystrydebau atom, geiriau caneuon, atgofion, jocs yn sgleunio yn y gwymon. Fe’u casglwn. Fe ddaw heddiw’n feddw i guro’r siarad cwrw ac yn ager mabinogi o straeon ddoe rydym yn wag o ddiogel. Ond fory beth am i ni sefyll yn ein hunfan am funud a sylwi y gallem ninnau hefyd ddod ag ystrydebau newydd i ganol esgyrn chwedlau. Beth am wynebu pen tost ein haddewidion yn yr haul cryf a’r môr. Yr un môr.
Programme Website