Episode details

Available for over a year
Gobaith Yn hen olau dechrau dydd mae’i wynt ar hyd palmentydd, yn sŵn gwag, drysau’n agor mae yno’n gân ac mae’n gôr. Mae yn anian y canwr a hwnnw’n nawr yn hen ŵr. Mae’n dawel mewn corneli a’n dwym yn dy galon di. Yn enaid, mae hwn yno yn ein cur ac yn ein co. Ac ar lôn sy’n deffro’n dân, eco haf ydyw'r cyfan; Awn yn hy â’r haul o’n hôl, neswn at un gân iasol.
Programme Website