Episode details

Available for over a year
Shân yn sgwrsio efo Bardd y Mis Radio Cymru, Elis Dafydd. Atgofion fory (i Shân Cothi) Yr ochr yma i’r radio, dydi hi’m yn swnio fel dy fod di’n gweithio – mai llafur mawr i ti yw sgwrsio’r bore ac mai paced pae yw’r unig beth i’th sbarduno i danio disg. Yr hyn a glywaf i yw un yn blasu awelon ein dyddiau wrth hwylio drwyddynt a gwrando hanesion bywydau’n byd a chwerthin dan swyn y siarad. Bydd y sgyrsiau’n troi’n atgofion wedyn pan fydd y stiwdio’n wag – yn bethau i godi gwên mewn yfory brau ymhen blynyddoedd. A flwyddyn ’nôl, bron iawn, bydd rhai yn cofio’r nodau’n dawnsio ar lwyfan gŵyl a thithau’n troi cyflafan Sweeney Todd yn sioe i’w chofio. A’r cofio hwnnw, ar ôl sioe neu raglen radio, sy’n rhoi i ni yr hyn a fydd yn codi gwên mewn yfory brau pan fydd y meic a’r llenni ynghau.
Programme Website