Episode details

Available for over a year
(Ar ôl nosweithiau meic agored y Glôb) Nes bod bysedd yn brifo, cloch y bar yn dirgrynu’n ara, a’r byd tu allan yn llacio’i afael roeddem yno’n gwrando caneuon rhyw ddoe a fu, yn clywed atgofion rhyw orffennol hen am fanion a drodd yn gelfyddyd wedyn: rhai’n cyrraedd, ffarwelio a mynd hyd y byd a’r glaw’n morthwylio’n eu calonnau nhw i gyd. Geiriau ac alawon pobl na wyddom eu hanes, pobl a wnaeth brofiadau’n byw yn destun rhyfeddod, cyn mynd, a glaswellt wedyn yn cuddio ôl eu traed. Ond mae iddynt hwythau eu hanfarwoldeb: mewn strým gitâr ac ochain ffidil a wylo tawel bar llawn alawon.
Programme Website