Episode details

Available for over a year
Chwarter canrif yn ôl, a mwy, dweud y gwir, Pan oedd hynny yn swnio yn gyfnod go hir, Dwi’n cofio i mi addo, pe bawn i’n cael plant, I beidio’u gorfodi i ganu cerdd dant, Ac na fyddwn i’n datgan, yn wahanol i Mam, Mai rwtsh oedd stwff Bowie, y Stranglers neu’r Jam. Roeddwn i’n mynd i wrando a rhannu eu chwaeth. Hen dro fod stwff heddiw beth gythraul yn waeth. Chwarter canrif yn ôl, roedd ’na silff yn y tŷ Oedd yn dal y recordiau, ac ambell CD, A rhes o gasetiau, rhai rhad a rhai drud. Fy nghasgliad cerddoriaeth, trysorau i gyd. Maen nhw’n dal acw rwla, yn yr atic mewn stash. Sgen y plant ddim diddordeb mewn fformats hen ffash. Maen nhw’n gallu gwrando ar lein ac ar lôn, Pob cân o bob albwm ar gael ar eu ffôn. Chwarter canrif yn ôl, addewais i’m hun I barhau’i fynd i gigs a finnau’n hen ddyn. I neidio fel idiot, a thynnu fy nghrys A dangos fy mysls yn laddar o chwys. Ond dros y blynyddoedd, daeth newid i’r drefn. Mae sefyll rhy hir yn creu poen yn fy nghefn. Dydi sgrechian gitârs a dryms ddim yn grêt Pan mae’r cyfan dwi isio ’di sgwrsio a sêt. Chwarter canrif yn ôl, roedd hi’n gythral o hwyl I fynd yn un criw i wersylla mewn gŵyl, I ddathlu a dawnsio a chadw y ffydd A chwerthin a chanu hyd toriad y dydd. Ond bellach, gwell gwely na chysgu ar lawr Yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, Rhif 6 neu Crug Mawr, Ac mae slipars a ch’nesrwydd a chawod wrth law Yn lot mwy apelgar na welis a baw. Chwarter canrif yn ôl, mor agos, mor bell. Chwarter canrif yn ôl, er gwaeth ac er gwell; Amser dechrau ffarwelio â’r llanc ifanc, ffôl Pan ddes i yn dad, chwarter canrif yn ôl.
Programme Website