ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Aylan Kurdi - cerdd Anni LlÅ·n

Rhaglen Dylan Jones

Available for over a year

Cerdd Aylan Kurdi Mor hegar yw’r darlun. Sgrech oer yng ngwyneb dyn. Plentyn. Rhwng y môr a’r tywod, yn y gwacter creulon, fel gwymon y mae’n gorwedd. Ai erchyllterau dechrau’r daith oedd bwrdwn ei freuddwyd olaf? Neu’r traeth hwn, a’i dywod celwyddog yn cynnig castell i’w warchod? Dwn i ddim. Ond nid yw’n ddarlun i’w gam-ddehongli. Ydi, mae’n cynrychioli, mae’n mynnu, mae’n arf perswâd. Mae’r gwacter creulon yn ffin arall sydd ar fin chwalu. Ac ystyriwn, tu hwnt i hwn mae yno filoedd. Ond yma, dim ond un, yn farw. Plentyn. Anni Llŷn

Programme Website
More episodes