ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,9 mins

Cerdd i Tudur Owen gan ddyn blin o Ben LlÅ·n

Tudur Owen

Available for over a year

Bardd y Mis, Anni Llŷn, yn darllen cerdd gan un o wrandawyr Tudur Owen... Clywaf lais ar y radio’n cadw twrw. Dyn, fel rwdlyn yn ei gwrw, yn berwi am wi-fi mewn acen Pen Llŷn, be bynnag’n y byd ydi hwnnw. Clywaf lais ar y radio’n fy ngwylltio. Pwy ydi’r boi ’ma sy’n mwydro? Yn berwi am bluetooth mewn acen Pen Llŷn, ’sa well gen i wrando ar ei fêt o. Clywaf lais ar y radio sy’n corddi rhyw gasineb gwyllt yn fy mol i. Mae o’n berwi am gigabytes mewn acen Pen Llŷn. Mae’ nwylo yn ysu am ei grogi. Fedraim diodda’r boi yn bregliach, Yn meddwl bod o’n ddoniol, y bwbach. Yn pardduo acen pobol Pen Llŷn, Gas gen i wrando ar y sothach. Ond wrth fystachu i’w ddiffodd dwi’n rhewi, ac yn sylweddoli’n reit handi, gan ddeud wrth fy hun yn fy acen Pen Llŷn, fod hwn yn Pen Llŷn wannabe.

Programme Website
More episodes