Episode details

Available for over a year
Cerdd newydd i hanner marathon Caerdydd gan Aneirin Karadog, bardd y mis ar Radio Cymru, cyn iddo ymuno â chriw o feirdd eraill sy'n rhedeg y ras. Ara' deg mae rhedeg ras Yn ddianaf drwy'r ddinas Heddiw, ac yn dy feddiant Mae'r ddawn i guro'r myrdd a ânt. Mas o bwff? Mae eisiau bardd I'th annog drwy'r daith anhardd A'i gwynegon, â neges. Filltir ar filltir yn fès, Ugain mil o gwynion mân O wingo 'geir eu hyngan. Ond cadw fynd, cei di fawl Nodau cyweiriau corawl Hirfaith y llinell derfyn; Y dorf sy'n dy ddal yn dynn. Arwr o redwr ydwyt, Yma, ffrind, Mo Farah wyt! Gam wrth gam mae rhedeg, was, Dy anadl fydd ein Dinas.
Programme Website