ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,3 mins

Gwledd y Nadolig – cerdd gan Nici Beech

Bore Cothi

Available for over a year

Wrth i raglen Bore Cothi ymweld ag Awen Menai, Porthaethwy, ar ein taith siopau llyfrau, daeth Nici Beech, bardd y mis ar Radio Cymru, atom i ddarllen cerdd am y wledd o lyfrau Cymraeg sy’n cael eu cyhoeddi adeg y Nadolig. Ym mis Tachwedd mae hi’n oer ac mae hi’n dywyll ac mae gorchwyl pwysig ar ein gwarthau ni, sef dangos peth dychymyg wrth roi anrhegion ‘dolig, ac mae’r ffordd i wneud yn amlwg iawn i mi. Llyfrau, llyfrau Cymraeg! Yr anrhegion mwya’ difyr yn y byd Llyfrau, llyfrau Cymraeg! O’ch siop leol sydd yn gynnes ac yn glyd. Mae ‘na wastad rhywun clên tu ôl i’r cownter i roi cymorth, ‘dyn nhw byth yn cael llond bol, ac mi ffeindian hanner dwsin o lyfra’ i wneud 'chi chwerthin, ac yn eu mysg fydd Popeth Pws a Llyfr Mawr Lol Os mai cwcio yw diléit yr hogan ‘fenga ac mai’n hoff o wylio Becws a Chegin Bryn, does 'na’m angen meddwl dwywaith mi fydd 'Tir a Môr' yn berffaith, ac mae ‘na gopi ‘di 'arwyddo yn fan hyn. Os mai pobl yw eu pethau peidiwch boeni mae 'na hanes ambell un i’w cael yn llawn cawn bori mewn bywgraffiadau ymgolli mewn hunangofiannau o fore gwyn tan nos a thrwy’r prynhawn Fe fu disgwyl hir am nofel Bethan Gwanas sy’n mynd draw i Botany Bay o Gymru fach ac i'r rhai sy’n hoff o ddenig, mi gaiff ’Norte' yn Ne Amerig gan Jon Gower, groeso cynnes yn eu sach. Llyfrau, llyfrau Cymraeg! Rhwng eu cloriau mi gewch deithio rownd y byd Llyfrau, llyfrau Cymraeg! O’ch siop leol sydd dim ond i lawr y stryd. O lyfrau plant i nofel newydd Dewi Prysor mi fedrwn sôn am 'chwaneg wir pe cawn ond am anrheg fach i mi mi wneith 'Fi sy’n Cael y Ci’, neu gyfrol Gruffudd Owen y tro’n iawn Llyfrau, llyfrau Cymraeg! Mae ’na ddewis lu a tydyn nhw’m yn ddrud Llyfrau, llyfrau Cymraeg O’ch siop leol sydd yn werth y byd i gyd.

Programme Website
More episodes