ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Gweld Ghazalaw – cerdd gan Nici Beech

Sesiwn Fach

Available for over a year

Bardd y Mis yn ymateb i berfformiad gan Ghazalaw ar gyfer y Sesiwn Fach. Mi glywais gân am boen dyhead A chân am orfod cuddio cariad Ond yn gudd ym mhob un cwpled Roedd allwedd agor calon galed. Mi glywais gân am hen ferchetan A chân am hen aradwr druan Ond er bod cariad weithiau'n greulon Roedd pob un cân yn codi 'nghalon. Clyd yw cân dan wres hen garthen Cân i'm cymell fel hen ychen Er rhoi gwerth ar hen garthenni 'Run yw'r gân dan sidan sari. Mi glywais ganu dau draddodiad Yn rhannu nodau cyfrin cariad A gobaith byd ym mhob doethineb Ishq Karo* rhag nwy casineb. (* "Byddwch mewn cariad")

Programme Website
More episodes