Episode details

Available for over a year
Cerdd newydd gan fardd preswyl Radio Cymru ar gyfer mis Rhagfyr, Aled Lewis Evans. Adfent (Cadeirlan Anglicanaidd Lerpwl a'i breseb cyfoes blynyddol) Gosodwyd yr olygfa, paratowyd y set; y gragen yn ei lle, a disgwyl a dyheu am glywed camau yn nesáu. Preseb maint llawn yn ei le eto, yn barod i ninnau gamu i mewn iddo, a rhyfeddu; ond run o'r cymeriadau cyfarwydd eto wedi mentro ar eu taith anodd tuag yno. 'Run bugail, brenin, na Baban wedi cyrraedd eto. Tybed a fentrwn ninnau ar siwrne eleni? Neu adael y preseb yn noeth fel hyn – heb run o'r cymeriadau a ddawnsiodd eu ffordd i'n calonnau brwd un bore gwyn?
Programme Website