ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,5 mins

Aled Lewis Evans - Pontio

Bore Cothi

Available for over a year

Ddoe, ceiniogau’r werin a bontiodd porthladd a chwarel â Phenrallt. Dyhead a finiogwyd gan freuddwyd cenhedlaeth, am addysg i’w plant. Eu haberth fu ein braint ni, a chreuwyd llwybr i’r Coleg ar y Bryn. Heddiw, ceir enfys uwchlaw dinas dysg, wrth bontio’r ddinas drachefn â’r Bryn, Mae’r Celfyddydau oll yma yn nawns pair y creu, a’r hen Awen yn cyniwair yn newydd, fel y bu’n pontio daear a nef ers y dechreuad. Yfory deil ‘Pontio’ uwchlaw bygythiadau, yn fan lle byddwn ninnau, fel ein cyndeidiau, am ganu’n uwch, llefaru’n daerach gydag arddeliad berfformiad ein parhad, ar lwybr wedi’i balmantu i’r sêr. Aled Lewis Evans. Rhagfyr 2015

Programme Website
More episodes