Episode details

Available for over a year
Bore Nadolig (Bore Nadolig ynghanol Wrecsam Yn y tynerwch hwn yn dilyn y gyrru cyfoes mewn ceir a bysus a threnau, yn deuluoedd yn heidio am y siopau; yn y gwacter newydd daw posibiliadau'r dydd newydd. Bore Nadolig yn y Ganolfan Siopa mor dyner mor ddistaw mor wag; mor newydd ag anadliad tyner baban. Yfory bydd gyrru ar hyd y gwythiennau drachefn ac arian yn llosgi ym mhocedi'r arwerthiant mawr, bargeinion a drefnwyd cyn y rhuthr gwreiddiol. Ond, fe fyddwn oll wedi cael Heddiw, yr hoe yng nghôl ein teuluoedd, yr ystyried byr a oes mwy i'r stori. Yr ysbaid.
Programme Website