Episode details

Available for over a year
TRA BO... (Ar ddiwedd blwyddyn, gan edrych ymlaen at 2016 ac i ddiolch i’r dysgwyr) Tra bo Rhos yn dal i ganu, tra bo dŵr yn nyfroedd Dyfrdwy, cyn i Fwlchgwyn ildio’i go’ tra bo dur ym mêr y Brymbo. Tra bo trem ar dŵr San Silyn, a thramwyo llwybrau Alun Tra bo mwynder dyfroedd Gwenfro yn dal i gynnig rhin noswylio. Tra bo ywen draw yn Owrtyn, tra bo tinc yng nghlych y llan, Tra bo cariad mewn calonnau O’r tywyllwch cyrchwn olau. Tra bo traphont Froncysyllte A Choedpoeth yn dal i ‘gomio’, Tra bydd dysgwyr hyd hen oror Yn ail-gydio yn ein trysor. Aled Lewis Evans Blwyddyn Newydd dda.
Programme Website