Episode details

Available for over a year
Rhaglen Dylan Jones Wrth droi fy radio 'mlaen am saith Un bore Llun cyn mynd i'r gwaith, Pesychais fy nhe Dros fy Special K ... Roedd Dylan Jones yn chwyldroi iaith. Oedais am eiliad a meddwl, jiw, Ai re-run cynnar o'r Talwrn yw? Ond mwy rhyfeddol Oedd ei gampau geiriol Na rhai Ceri Wyn, Tommo a Cyw. Roedd hwn yn well am lunio pyn Na'r hacs sy'n creu penawdau'r Sun, Nid pob un sydd Yn feistr cudd Ar eiriau - ond mae Dylan yn. Fe aeth o eitem am werthu tai I bobl leol ym Mangor, ai, I ISIS mewn chwinc, Unrhyw beth am linc, Mae'n pynio yn ei gwsg, medd rhai. Am eiriau mwys neu ateb ffraeth, Na Dylan Jones, nid oes neb gwaeth, Mae o mor, mor wael, Mae o'n dda, yn ddi-ffael, Mae'n taro'r marc bob tro fel saeth. Ond peidiwch, da chi, â dechrau cellwair Am gamp y bêl gron, neu bydd am bedair Neu bump neu fwy O oriau'n dweud pwy Sy'n siwr iawn o ennill y gynghrair. A minnau nawr y bore hwn Ar raglen Dylan Jones, ni wn Pa air bach smala Ddaw ganddo nesa' ... Ond bydd yn ddigon brathog, mwn!
Programme Website