Episode details

Available for over a year
Mae'r flwyddyn wedi'i geni Yn hwyr y nos eleni, A heddiw rhag hangover gwaeth Am lymaid llaeth yn gweiddi. Mae teulu a chyfeillion Yn trydar eu cyfarchion, Yn dod i gwrdd ar ddechrau dydd Ei gilydd yn y galon. Bydd 'leni, taerwn ninnau, Yn ddoethach, er pob amau, Anwylach, callach, gwell ei gwedd Na'r llynedd ar ei gorau. Er gwybod gwell, mae'r ysfa Heddychlon ar ei heitha', A chlo ar iet hen winllan ddu Surfelus y rhyfela. Mae'r flwyddyn, er ei gwlyped, Yn newydd o ddiniwed, Mae iaith ein gobaith yn ei gwên, Hi hen, eleni ganed.
Programme Website