Episode details

Available for over a year
Cerdd gan Eurig Salisbury ar gyfer ei wraig Rhiannon. Rhag brath cawodydd trymion Mae lloches ym mhob calon, I mi rhag stormydd cas a braw Rhew Ionawr, mae Rhiannon. Ym mis y dyddiau byrion, Pan guro'r tonnau geirwon, Diolch i'r drefn fod gen i wraig Sy'n graig ym mrig yr eigion. A ninnau yn gariadon A gŵr a gwraig, Rhiannon, Mae bod i Llew yn 'mam a dad' Ar gariad yn rhoi'r goron.
Programme Website