ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Chwedl y grempog fawr

Geraint Lloyd

Available for over a year

Doedd bod ar Radio Cymru ddim yn ddigon i Geraint Lloyd, Roedd am fod lot fwy enwog na Tomo hyd yn oed; Cael ennill record Guiness, ar hynny roedd ei fryd - Penderfynodd Geraint wneud crempog fwya’r byd. Hysbysebwyd y digwyddiad o Fôn rholl ffordd i Went Drwy yrru’n araf araf bach mewn clamp o lori sment, Roedd micsar anferth ar gefn hon, a hwnnw’n troi a throi, A mil o fois y loris yn llwytho – a thindroi ; Can tunnell o flawd codi a sach o gabanet, Mynydd mawr o fenyn a llwch hen sigaret - I mewn a nhw i ‘r micsar mawr, a halen fesul pwys, A hynny er mwyn sirchau umami lot mwy dwys ! Dwsin o ddwsiynnau o wyau gŵydd a chwadan, A chymaint â llyn Tegid o laeth gan fuches Fresian, Mymryn o finag a Wyddfa o siwgwr, A gwaddod hen jariau o waelod hen gwpwr’ - I mewn a nhw i’r micsar a chymysgu’r stwff i gyd Er mwyn i Geraint Lloyd gael gwneud crempog fwya’r byd; Ond sut i gwcio’r crempog ? Ple cai badell ddigon mawr ? Padell fwy na’r badell fwyaf ... padell ddigon mawr i gawr ... Fe gafodd Geriant syniad - benthycodd badell Jodrell Bank A’i rhoi ar ben llosgfynydd a’i thanio gyda tanc - I’r badell arllwysodd y lori y mics - Stwff digon tebyg i fortar wal frics - Coginiodd un ochr i’r crempog mewn dim I neud rochr arall rhaid ei throi yn reit chwim, Fe’i taflodd i’r awyr er mwyn ei throi drosodd Ond ddaeth i hi ddim lawr – yn wir fe ddiflanodd - A nawr mae Geraint Lloyd yn arwr yn enwog, Mi lwyddodd i lewni’r twll ozone fo’i grempog, Mi achubodd y blaned – y cyfan i gyd - Am iddo wneud crempog – y fwya’n y byd.

Programme Website
More episodes