Episode details

Available for over a year
Y Pethau Bychain. Mi wnâi'r holl bethau bychain, dwi'n addo 'lenni gwnaf wirioni ar y blodau aur sy'n datgan y daw'r haf. Mi wnâi'r holl bethau bychain, fel hwylio panad iawn a hidio befo os di'r sgwrs yn para drwy'r prynhawn. Mi wnâi'r holl bethau bychain, cael amser chdi a fi a thaenu'n geiriau hyd y bwrdd fel briwsion teisan gri. Mi wnâi'r holl bethau bychain, mi gofia'i godi'r ffôn a chefnogi'r siop fach leol sydd ond i fyny'r lon. Mi wnâi'r holl bethau bychain, y jobsys diflas lu fu'n crefu'i gwneud ers misoedd maith ar hyd a lled y tŷ. Mi wnâi'r holl bethau bychain, gwneud safiad dros yr iaith, a herio bob un celwydd noeth sy'n esgus bod yn ffaith. Mi wnâi'r holl bethau bychain, fel bwydo'r adar to fu'n hir newynu yn fy ngardd, a phlygu'r papur bro. Mi wnâi'r holl bethau bychain, os ga i hanner awr o lonydd rhag y pethau hurt sy'n esgus bod nhw'n fawr. Mi wnâi' holl bethau bychain, mae'n amser newid byd, i gyd yn enw Dewi Sant....dwi'n addo gwnâi... rhyw bryd. Gruffudd Owen
Programme Website