Episode details

Available for over a year
Dirgelwch yr wyau Maen nhw’n credu nawn ni’m sylwi, rydw i’n honco medda rhai; ond dwi’n gwybod fel efengyl fod creme eggs ’di mynd yn llai. Peidiwch poeni am bris petrol na phris olew yn Dubai, megis pi-pi dryw ’di hynny a chreme eggs yn mynd yn llai! Synhwyraf gyllell y llywodraeth. Ai George Osborne sydd ar fai am sleifio brawddeg i’r gyllideb am greme eggs yn mynd yn llai? Dwi ’di trio ffonio’r heddlu MI6 a’r FBI ond mae’r taclau’n ceisio gwadu bod creme eggs ’di mynd yn llai. Ond cefais dip-off cyfrinachol (gan ryw smack-head o Drelái) oedd yn honni fod o’n gwybod pwy sy’n gwneud creme eggs yn llai: Beti George a Margaret Williams ac un o Hogia Llandygai, nhw ’di’r cnafon diegwyddor sydd yn gwneud creme eggs yn llai! Maen nhw’n berchen llongau tanfor sy’n cludo’r wyau i Mumbai at ryw dîm o arbenigwyr, nhw sy’n gneud creme eggs yn llai. Felly deffrwch bobol Cymru, mae hi’n amser herio’r trai! Awn i frwydro’r grymoedd aflan sydd yn gwneud creme eggs yn llai! Gruffudd Owen
Programme Website