Episode details

Available for over a year
Wyt ti yn chi? ‘Chi’ ’da ‘Chi’ mae ngreddf i’n dweud, Fydda ‘Ti’ jyst ddim yn gwneud, A ‘Ti’ wyt ‘Ti’ mae hynny’n blaen No sweat, fy ffrind, no sweat, dim straen. Weithiau mae ‘Chi’n efynnau caeth, Yn tagu sgwrs a’i gwneud hi’n waeth. Dro arall ‘Ti’ sy’n sws glec Gan hen ffrind, o na, fflipin hec! Ac weithiau’n wir, os oes gen i flys, Mae troi at ‘Ti’ fel codi bys. Dro arall mêt, (dwi ddim yn ffŵl), Mae bod yn ‘Ti’ jyst yn cŵl. Ond a thithau’n dri deg oed Y peth gwaetha’i mi erioed, ’Di sylweddoli dy fod Ti Yn mynnu ngalw i yn Chi!
Programme Website