ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Cadeiriau Amryliw’r Ysgol Gynradd

Bore Cothi

Available for over a year

Un gadair goch mewn byd mawr, mawr, Un mor aflonydd ac mor syn, Yn ddagrau parod ac yn wên, Yn gollwng ond yn dal yn dynn. Coch a gwyrdd a llwyd a glas, Traed yn chwarae uwch y llawr. Coch a gwyrdd a llwyd a glas, Hogyn bach yn hogyn mawr. Un gadair werdd yn hyder brau, Yn gleisiau byw, pen-glin yn graith, Yn llygaid llo a dagrau’n llyn, Y byd yn wyn a Santa’n ffaith. Coch a gwyrdd a llwyd a glas, Traed sydd bron a thwtj a’r llawr. Coch a gwyrdd a llwyd a glas, Hogyn bach yn hogyn mawr. Un gadair lwyd a’r hogia’n dîm, Y byd fel ffilm a’r ffrindiau’n fflyd Ar antur mawr i’r gofod pell, A dim un hogan yn y byd. Coch a gwyrdd a llwyd a glas, Traed aflonydd ar y llawr. Coch a gwyrdd a llwyd a glas, Hogyn bach yn hogyn mawr. Un gadair las, ddiniwed, ddoeth, Arddegau’n sibrwd wrth y drws. Yn dal a byr, yn gryf a gwan, Yn hogyn mawr a babi tlws. Coch a gwyrdd a llwyd a glas, Traed yn barod, ar y llawr. Coch a gwyrdd a llwyd a glas, Hogyn bach yn hogyn mawr.

Programme Website
More episodes