ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

I Burdah’r ÃÛÑ¿´«Ã½

Gwybodaeth

Available for over a year

Mae hwn yn bennill coch, Yn bedair lein o hyd, A thrwy’r llinellau hyn, Cewch olwg coch o’r byd. Mae hwn yn bennill glas, Sy’n union yr un hyd, A thrwy’r llinellau hyn, Cewch olwg glas o’r byd. Mae hwn yn bennill gwyrdd, Sydd eto yr un hyd, A thrwy’r llinellau hyn, Cewch olwg gwyrdd o’r byd. Ac oren ydy hwn, Ond mae o yr un hyd, A thrwy’r llinellau hyn, Un oren yw y byd. A phorffor ydy hwn, Ond ’sdim amrywio’r hyd, A thrwy’r llinellau hyn, Un porffor yw y byd. Mae yna fwy i’w cael, O liwiau yn y byd, Ond fydd y pennill byth Yn amrywio yn ei hyd. Tra’r pery’r ymgyrch boeth I’n cynrychioli ni, Cadw’r lliwiau yn eu pot, Yw gwaith y ÃÛÑ¿´«Ã½ Nes bydd y lliwiau’i gyd, Pob dewin a phob clown, Yn llifo’i mewn i’r Bae I ffurfio Senedd frown.

Programme Website
More episodes