Episode details

Available for over a year
Cywydd Mawl i Beti Untro mewn côl o bentre daeth, fel gwên o lawen le, un gefais bron yn gyfoed yn forwyn cân o Fryn Coed: ei doniau ar adenydd âi’n uchel i’r awel rydd. Gyda’i brawd o Goed y Bryn yn ei hysgol gwnâi esgyn; drwy’i chynneddf fesul steddfod gwelem a chlywem ei chlod, a mwynder llyfnder ei llais yn hudlath o hyfrydlais. Ond ar lwyfan gwahanol daeth Beti i ni yn ôl, dod i wlad o aelwydydd i roi darn o stori’r dydd, ’run mor lân â’r ynganu yn fêl ar lwyfannau fu. Ond yn awr bu’n dwyn i ni orig ym myd y cewri, neu’n dwyn i ni y di-nod wynebau diadnabod; chwilia fodd, drwy’i chelfyddyd, roi’r Cymry i Gymru i gyd. Mae’n gwlad mewn portreadau yma i ni eu mwynhau, oriel o bob cymeriad o ddoe glywn, a heddiw gwlad: pawb gwâr a wnâi lefaru, yng nghwmni Beti y bu.
Programme Website