Episode details

Available for over a year
Google Mars Pellter? Dim ond clic llygoden Ac mae planed yn dy law, Tynna’r tir coch yn nes atat A chrwydra yma a thraw. Clic, a llusga’r chwyddwydr Dros dirwedd sy’n llenwi’r llun, Dyffrynnoedd dwfn a llydan, A’r llosgfynydd mwyaf un. Clic. Dychmyga dy fod ti Yn crwydro mewn crater cras, Neu’n llithro dros y pegynau Rhewllyd yn teimlo’r ias. Clic. Dilyna’r afonydd Sy’n sych ers oesoedd hir A’u canghennau distaw’n estyn Eu brigau fel bysedd drwy’r tir. Clic. Teima’r stormydd llychlyd Sy’n symud y tywod mân, Clic. Mae Mawrth y dychymyg Yn nes nag yr oedd o’r bla’n.
Programme Website