Episode details

Available for over a year
Yn dyner, dawel daw i'r sgrîn dy lun, mewn du a gwyn. A gwelaf, mewn hanner curiad adenydd glöyn byw dy lygaid a dy gysgod, dy straeon a dy chwerthin, dy enw a dy hoff si-hei-lw. Fel petai rhywun wedi gosod y cyfan yn barsel annisgwyl ar riniog fy myd. Cyn i eiriau'r nyrs ddisgyn yn araf amdanaf fel plu, a ngwneud i'n slwj o eira oer. Does dim parsel na glöyn byw. Mae'r llun yn deilchion. Casia Wiliam 10/10
Programme Website