ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Ynys draffig

Aled Hughes

Available for over a year

Wrth eistedd mewn rhes, yn y gwres ei weld, yr arwydd llon o’r enw ‘ ynys draffig’. Safai yn llond addewid a minnau’n stond, gwahoddiad oedd i mi gael mynd ar wib rhag grŵn peiriant: boned tu ôl a chist car tu blaen -- gan ymgolli ,llesmeirio wrth hwylio i ryw ynys las: a’r cefnfor yn eirias amdanaf, y tonnau’n faneri gwynion, a phalmwydd ar y traeth. Ond glesni’r dychymyg ddaeth i stop wrth i wynebau glasach weiddi, a chanu corn fesul corn yn y glust, a dwylo’n rhegi wrth i’r golau gwyrddlas rythu. Thâl hi ddim mewn tagfa draffig grwydro ymhell o’r llyw, a fiw i chi ffoi i ias o ffantasi cyn i’r golau newid ei liw creu o’ch cragen fetel ryw ynys afallon sy orau, a mynd o dow i dow a chyrraedd yn raslon.

Programme Website
More episodes