ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Bwydydd arbennig

Bore Cothi

Available for over a year

Gwrandawyr Radio Cymru: Rhowch heibio fwyta llymru; Dechreuwch lowcio datys sych, Blodfresych wedi hynny. Llond platied o bigoglys Yn lle rhyw sothach melys, A chadw lle, yw ‘nghyngor i I frocoli bach blasus. Cnau coco sy’n dda ichi A phomegranad lyfli, A hydref, gwanwyn, gaeaf, ha’ Cîn-wâ hyd at gyfogi. Te gwyrdd i olchi’r cwbl I’r stumog yn ddi-drwbl. A pheidio yfed Cwrw Llŷn Rhag coblyn o gythrwfl. * * * Yr oedd gan nain risetie I drin y bwydydd gore, A gyrrai’r plant, yn drwm o chwys I hela llys y brynie. Roedd taid yn ddiwyd balu Ei ddarn o dir a’i chwynnu, A deuai’n gyson o’r ardd hon Ei foron i’n diwallu. Mor ddiwyd fu’r gwrteithio Yng nghornel yr ardd honno, A deuai’n gyson ddechrau’r haf Y riwbob braf i’w dastio. A phan ddoi tymor medi A’i fladur wedi’i hogi, Ai taid i lawr i’r dolydd ceirch A’r gwenyn meirch yn gwmni. Â nain yn drwm o gyffro Ai’r plant i gyson grwydro, A’r mwyar duon tew yn stôr Yn borffor ar eu dwylo. Ac antur cyson ydoedd Hel cnau o gyll y stingoedd, Ac felly deuai bob yn gwd Y superfood i’r silffoedd. Arwyn Groe 04.09.16

Programme Website
More episodes