Episode details

Available for over a year
Hamdden Pa beth yw byw, a’i ofal dwys Heb awr i’w rhoi i ddim o bwys, Heb awr i oedi’n hir yng nghôl Y ddaear las ar lawr y ddôl, Heb awr i weld, wrth fynd ar droed, Y wiwer goch ym mrigau’r coed, Heb awr i weld yng ngolau dydd Y ffrydiau sêr drwy’r wybren rydd, Heb awr i droi edrychiad hir Ar ddawns yr hwyr ym mreichiau’r tir, Heb ennyd fer i aros gwên Llawenydd hir ei llygaid hen? Pa beth yw byw, a’i ofal dwys Heb awr i’w rhoi i ddim o bwys?
Programme Website