Episode details

Available for over a year
Yng nglas y dydd, af i’r sgwâr sy’n lasach; ymgolli yn y lli llon sy’n tonni amdanaf. Suddo i’w freichiau saff; arnofio uwch y dŵr, ac ar dro fi yw’r morlo, dim ond wyneb i’w weld, cyn troi’n dolffin trwynbwl gan ddawnsio fry’n yr awyr. Toc, ac yn y Môr Du –wyf lwynog y cefnfor. Byd llawn hud o hyd i mi yw’r pwll hwn sy’n creu asbri a phan yw rhai yn dal mewn gwely gorwedd ar wely glas a wnaf heb fod ar dir ond yn y dŵr y daethom ohono’n fabanod bychain. Fi weithiau yw’r Olympiad penigamp a’m camp yw ennill medal aur yn hawdd. Cyn colli anadl gyda strôc glöyn byw, broga neu nofio ci! Tic toc arall. ‘ A’r cloc yn taro naw’. Dringo’r grisiau dur yn wlyb diferol. Mor oer yw’r concrid wedi croeso’r pwll. Ond wedi dowcio i’r dŵr o’r dwfn i’r bas— Bydd, fe fydd fy llygaid, am ryw hyd, yn tonni’n las.
Programme Website