Episode details

Available for over a year
Bethlehem Maen nhw’n llenwi pob un o silffoedd y tŷ erbyn hyn, cardiau Nadolig, a phob llun arnyn nhw yn gyfarwydd: yr angylion lu, y tri brenin ar gopa’r bryn yn syllu ar y seren o bellter ac yn dilyn ei harwydd. Congl-faen ei ffydd i’r crediniwr yw’r cardiau hyn tra bo’r amheuwr yn gobeithio mai gwir yw’r stori, ond i’r anffyddiwr rhonc, dim ond celwydd gwyn yw Nadolig yr eira, y Seren, a’r Mab i’w drysori. Amgenach yw Bethlem y gwn i Fethlem y cardiau, ac mae gwaed Palesteiniaid yn staenio man geni Crist, a milwyr yr Israel hwythau yn llenwi wardiau ysbytai â phlant maluriedig, toredig, trist. A ddylid ar y cardiau hynny roi llun ceir ar dân a lladd pob llawenydd a gobaith a mygu pob cân?
Programme Website