ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,3 mins

Jeli llyffant / Grifft ?

Galwad Cynnar

Available for over a year

Sut ma'i Gerallt, Syndod mawr i mi oedd dod ar draws grifft llyffant ar y llwybr rhwng Cae Newydd a Brithdir yng Ngwaen Cwm Brwynog ar y 17eg o Ragfyr y llynedd. Fel arfer, wrth gwrs,buaswn yn gobeithio ac yn disgwyl ei weld yn gynnar yn y flwyddyn newydd.O edrych yn fanylach gwelais nad oedd yr un wy du i'w weld, dim ond y jeli llwydliw. Beth yw'r eglurhad? O wglo (colli "g" wrth dreiglo?!)ar y we, darllenais un cynnig ar eglurhad mewn blog am fferm organig yn Nyfnaint o'r enw Locks Park Farm, a ysgrifenwyd ar y 30ain o Dachwedd, 2008, wedi i'r blogiwr hefyd weld grifft di-smotiau.Dyfynaf: "Robert's explanation was that it had most probably come from a frog killed and opened by a predator, perhaps a heron, with the immature spawn emptying out and expanding in the wet conditions." Edrychaf ymlaen i glywed eich cynigion a pha mor gyffredin yw taro ar y fath beth. Diolch i chi i gyd am y rhaglen , byddaf yn rhyfeddu at y brwdfrydedd, y consyrn a'r stor gwybodaeth, Hefin.

Programme Website
More episodes