Episode details

Available for over a year
Mae mur o galonnau’n curo yn y chwys rhwng llawr ucha’r clwb a’r nôs…yn aros. Gitârs yn tiwnio’r awr hyd ei heithaf a thannau’n cyhyrau’n tynhau yna, yn fflach o gonverse coch ar ddawns herciog; bardd y curiad calon a bardd y misfit yn ffrwydro’n heneidiau, a’i dweud hi mewn ffordd yr ydan ni’n ei ddallt… …ac er yn hŷn, mae o’n un ohonom ni. Estynwn tua’r awyr dywyll a reggae reggaeio’r nos ymaith
Programme Website