Episode details

Available for over a year
Bardd mis Ebrill, Marged Tudur, sy'n cyfansoddi ar y testyn "Dicter". Mae'n edrych yn ol ar y profiad o alaru am ei brawd a theimlo yn ddig wrth i'r cyfryngau adrodd ar y 'stori'. Stori Mae dwy fodryb yn dweud wrtha i fod ei lun ar dudalen flaen y Daily Post heddiw, iddo hawlio eitem ar y Post Prynhawn a’i fod yn rhan o bytiau ffarwel newyddion y ÃÛÑ¿´«Ã½, ITV ac S4C a phe tawn i’n teipio ei enw ar y we mi welwn erthyglau, trydar a theyrngedau a, ‘gwranda, mi fydda’n ddoeth i ti beidio gweld.’ Dwi’n cogio cytuno ac yn cau drws y parlwr ar y cyd-adrodd ‘meddwl amdana chdi ydan ni.’ Dwi’n dod o hyd i’r papur dan glustogau’r soffa, dwi’n rhoi batris yn y radio, dwi’n ail-gysylltu’r wi-fi ac yn rhoi plwg y teledu yn ôl yn y wal. Ac mae o yno efo’r tywydd sy’n staying dry with some sunny spells, mae o yno rhwng Miliband a Britain’s Got Talent, Patagonia a lluniau Kyffin Williams. Mae o’n ateb taclus terfynol yng nghanol cwestiynau which country has the least sexiest banknotes? a pha mor anodd ydi hi i brynu anrheg delfrydol i’ch cymar? Mae o yno drws nesa i’r hysbys 70% off home, garden and fashion. Gohebwyr yn rhestru ffeithiau am gar a chorff ac anafiadau, a jest cyn cloi, maen nhw’n poeri brawddegau mewn lleisiau print mân ac yn annog ‘unrhyw un oedd ar yr A487 rhwng 3 a 4 y bore i ddeialu 101.’ Am ennyd neithiwr, fe wnaethant bitïo cyn cofio’n sydyn am y pitsa oedd yn y popdy, y dillad budur ar y landing, y word count a’r deadline. Ac uwch y meat feast pitsa roedden nhw eisoes yn byseddu’r stori nesaf.
Programme Website