Episode details

Available for over a year
I Llŷr Serw ap Glyn Heddiw, i Lanrwst daeth dydd o haf i gofleidio gwanwyn, daeth moto beics i sgrytian oglau’r Gogarth hyd y stryd a thros y bont daeth rhai i weld yr haul yn taenu’i liw yn nrych yr afon. A heddiw, yn Llanrwst Serw sydd yn Gae Llan o groeso, yn sicrwydd mewn storm, yn Sadwrn ymhob Sul, yn dynnu coes, yn ewyllys. O’i gadair ger y ffenest Serw sydd yn cyrraedd y Carneddau a Serw sydd yn ymestyn at yfory ei Gymru gyda gwên. Diflannodd yr haul, distawodd y moto beics, dychwelodd rhai yn ôl dros y bont ond yn Llanrwst, Serw sydd yn gymar ac yn dad cadarn, yn fab ac yn frawd o haearn.
Programme Website