Episode details

Available for over a year
Rhywle ym Meirion gan Geriant Lloyd Owen Mae’r ffordd i’r mynydd weithiau’n hwy na hyn, ond heno mae rhyw amcan iddi hi. Rhyfedd yw’r cyfeillgarwch ger y llyn, A thithau’n hŷn na’m dyddiau olaf i; eto, ni synnaf cans i’r enaid llesg fe ddaw anghofrwydd o gostrelau’r hwyr a gweled machlud haul yn ffaglu’r hesg sy’n ddarlun nas anghofir fyth yn llwyr. Mae rhywbeth rhyngom ni yn gadwyn hardd, rhywbeth heb ffurf na llun sydd eto’n bod, rhywbeth na all arlunydd, gwlad na bardd roi iddo fywyd llawn a chyflawn glod. Paham y deuthum heno ni wn i ond gwn na chysgwn heb gael sgwrs â thi.
Programme Website