ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Cywydd Bardd y Mis Geraint Lloyd Owen i Awen a Geraint 08.05.17

Bore Cothi

Available for over a year

Dros y penwythnos roedd merch Geraint, Awen, yn priodi, rhoddwyd y cywydd iddi yn gyfarchion. Cyfarchion Priodas Awen a Geraint (6-5-17) Hwn yw dydd uno deuddyn Dyna wyrth gwneud dau yn un. Hwn yw dydd uno dwy ach, Duwiol uno dwy linach. Llawenydd newydd i ni Rhoi deunydd parhad inni. Ymhob partneriaeth mae her. Ymhob priodas mae pryder. I’r aelwyd daw cwerylon A rhyw brep bob dydd o’r bron. Ond ni waeth beth ddywed neb. Gwenwch yn ôl i’w gwyneb. Eich hunain buoch unwaith. Ond rhannu’r gwely a’r gwaith Raid i chi ar hyd eich oes, Rhannu rydd werth ar einioes. Rhannu’r aflwydd a’r llwyddiant A rhannu’r cur, gant y cant. Dewis merch od oes i mi, Hawdd iawn a fydd ei henwi. Odid mae Awen ydyw. Main ei gwasg fel maneg yw! A theg wraig ymhlith gwragedd. Ni ddaw gwg i dduo’i gwedd. Yma’n awr, dymunwn ni Iechyd a’r gorau ichwi. Boed dôr eich cartref hefyd Yn ddôr tangnefedd o hyd. A hyd y Farn hyfryd fydd Eich gweled hefo’ch gilydd. Geraint Lloyd Owen

Programme Website
More episodes