ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,4 mins

Y Rhaglen Gylchgrawn Orau; Aled Hughes

Aled Hughes

Available for over a year

Mae yna wahanol berfformwyr i'w cael yn y byd, A safon eu hiaith yn fratiog o hyd. Ac ar ambell sgwrs fe gewch ambell un, Sy'n mynd dros ben llestri ac yn gwneud ffwl ohono'i hun Mae'r iaith yn clafychu ar wefusau y rhain Nid yr iaith gadarn, goeth a siaradai fy nain. Maent yno yn siarad yn fratiog i'r meic A fawr neb yn poeni, nac yn meddwl am streic. Ond wedi dweud hyn mae ambell un hirben Fel seren arbennig yn nhwllch ffurfafen. Mae hon yn llewyrchu ar bopeth o'i chwmpas, Yn addurn pob ymgom, ac yn glust i gymdeithas. A phwy yw y seren sydd heddiw'n wahanol Yn trafod yr iaith gyda urddas fy mhobol Ei enw? Wel, Aled Hughes ydy hwnw Mae o yma i siarad hefo fi, ar fy marw Doedd o ddim yn disgwyl hyn, na dim o gwbwl A bydd bardd y mis Mai mewn andros o drwbwl! Ond duwcs be ‘di o bwys, mae'r gŵr o Lanbedrog Yn feistr ar holi, a'i waith sy'n ardderchog Er byw draw ym Môn, mae'r hogyn o Lŷn Yn arddel sawl idiom yn ei iaith ei hun Fe glywyd am 'lwmp o gan' wir i chi Neu am lwmp o farddoniaeth fel hwn gennyf i. A dyna chi wedyn rhen Al’ hefo'i foch Yn dysgu eu tywys o gylch Abersoch. Ac am ras 'redig y Sarn, ef ydyw'r dyn Â'i aradr ungwys all guro pob un. Mae'n sobor am ddewis sawl her yn flynyddol A gweld concro y cyfan, mae'n foi penderfynol. A dyna paham rwyf mor hapus fy nghri Ac yn tynnu fy nghap i gyflwynydd fel ti. Geraint Lloyd Owen

Programme Website
More episodes